MAIN SPONSOR 2011

.
Croeso i’r chweched Ŵyl Gwrw Llanbedr
Welcome to the 6th Llanbedr Beer Festival.
We would like to offer you the opportunity to try our local brewed beers and our hospitality. A lively weekend for all lovers of Real ale and local entertainment is planned.
.
Please forward your views & comments on our 2010 festival
Wishing you an enjoyable week end
Llanbedr Beer Festival Gwyl Cwrw Llanbedr Friday 23/09/2011 Gwener
Saturday 24/09/2011 Sadwrn
.
Hoffwn gynnig i chi'r cyfle i brofi ein cwrw lleol a’n lletygarwch. Trefnwyd penwythnos bywiog i’r rhai sy’n gwerthfawrogi cwrw da efo adloniant lleol.
GAIR O’R GADAIR
Ar ran Pwyllgor Gwyl Gwrw Llanbedr 2011, dymunaf eich croesawu’n gynnes i’n 6ed wyl. Pan dderbyniais swydd y Cadeirydd, sylweddolais fod gennyf gyfrifoldeb mawr i sicrhau llwyddiant yr wyl eleni.
Yn 2005, dros beint, death grwp bach o drigolion lleol ynghyd i ystyried sut i godi arian er lles achosion lleol, a dyna sut y ganwyd Gwyl Gwrw Llanbedr. “O fesen fach – tyf Derwen fawr”. Hyderwn y bydd hyn yn bodoli eto eleni.
Ni allaf bwysleisio digon, ein diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi, un ai drwy hysbysebu yn y llyfryn yma, neu drwy noddi uniongyrchol. Ein prif noddwr eleni yw Cronfa CAE (Cronfa Arbrofol Eryri) o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae llawer cymdeithas leol wedi elwa o arian noddi, ynghyd â’r elw o werthiant cwrw, seidr a bwyd. Dros y blynyddoedd mae dros £11,800 wedi ei rannu i:
Ysgol Gynradd Llanbedr Seindorf Arian Harlech Canolfan PAW Cylch Meithrin Llanbedr Teulu Artro Clwb Pêl-droed Harlech Clwb Pêl-droed Llanbedr Neuadd Nantcol Sefydliad y Merched Artro Pwll Nofio Harlech Côr Meibion Ardudwy Clwb Karate’r Ddraig Sefydliad y Merched Talybont Hen Lyfrgell Harlech Gwyl Flodau Llanbedr Rhwydwaith Maethu Llais Ardudwy Cylch Meithrin Harlech Clwb Ieuenctid Llanbedr Râs Fynydd Llanbedr Cae Chwarae Llanbedr A.T.C.
Ar hyn o bryd, i’r yfwr cwrw deallus, rydym yn anelu at gael 8 bracdy yn darparu 24 – 26 cwrw. Gan fod seidr wedi dod yn boblogaidd hefyd, rydym yn ystyried cyflwyno dewis ychwanegol. Gan fod y llyfryn yma yn cael ei ddosbarthu cyn yr Wyl efallai erbyn Mis Medi y bydd cwrw newydd yn cymeryd lle yr hen rai. Felly ni allwn roi darlun cywir o beth fydd ar gael ar y diwrnod. Cadwch lygaid ar ein gwefan www.llanbedrbeerfestival.co.uk am wybodaeth newydd.
Mae’r adloniant byw yn boblogaidd – helpu’r cwrw fynd i lawr, a chreu awyrgylch hapus yn y babell fawr, gyda rhai pobl yn ymuno. Gyda hyn mewn golwg, bydd act ychwanegol eleni rhwyg 5.30 a 7.30y.h. nos Sadwrn, yn ogystal a’r un rhwng 8 ac 11y.h. Gobeithio y gwnewch fwynhau hyn.
Cyn cloi, hoffwn ddiolch i Steve Smith a’i deulu am eu haelioni o roi i ni y man perffaith i gynnal Gwyl Gwrw Llanbedr 2011.
Cofiwch! Am bob peint a brynwch – bydd achos leol yn elwa. Mwynhewch eich hunain ac yfwch.
Good health! Iechyd da!
Cofion gorau atoch i gyd.
Janet Griffith
Cadeirydd 2011
==================================.
A WORD FROM THE CHAIR
On behalf of the 2011 Llanbedr Beer Festival Committee, I wish you all a very warm welcome to this, our 6th festival. When I accepted the role of Chairman I realised I had a lot of responsibility ensuring the success of this year’s festival.
In 2005, over a pint, a small group of villagers deliberated how to raise money for the benefit of local causes and so, the Llanbedr Beer Festival was born! Over the ensuing years it has grown in popularity. “From little acorns – mighty oaks grow!” We hope this will materialise again this year.
I cannot emphasise enough, our grateful thanks to everyone who has supported us either by advertising in this brochure or by direct sponsorship. Our main sponsor this year is the CAE Fund (Substainable Development Fund) of the Snowdonia National Park Authority. Many local organisations have benefited from sponsorship money and also the proceeds from the beer, cider and food sales.Over the years, £11,800 plus has been distributed, the beneficiaries being:
Llanbedr Primary School Harlech Silver Band The PAW Centre Llanbedr Play School Teulu Artro Harlech Football Club Llanbedr Football Club Nantcol Village Hall W.I. Artro Group Harlech Swimming Pool Côr Meibion Ardudwy Dragon Karate Club Talybont Women’s Institute Harlech Old Library Llanbedr Flower Festival The Fostering Network Llais Ardudwy Harlech Play School Llanbedr Youth Club Llanbedr Fell Race Llanbedr Playground Air Training Corps
At the time of going to press, for the discerning Real Ale drinkers, we are aiming to have 8 breweries providing 24 – 26 ales. As the cider has also become popular we are considering introducing an extra choice. With this brochure being circulated ahead of the Festival, we have in past years discovered, by the time September comes around, some ales have been superseded by new ones. Hence, we cannot give an accurate picture of what will be on offer on the day.
Please therefore, keep an eye on our website www.llanbedrbeerfestival.co.uk which will be updated as information is available.
The live entertainment we provide is popular – helps the ale go down and presents a well balanced happy mood throughout the marquee with folk joining in at times. With this in mind, in addition to the usual coverage between 8 & 11pm, we are introducing an extra act between 5.30 & 7.30pm on Saturday. We trust you will enjoy this addition.
Before closing, I wish to thank Steve Smith and all his family for generously providing us with the perfect venue in which to hold Gˆwyl Gwrw Llanbedr Beer Festival 2011. Final thought! From every pint you buy – a local cause will benefit. So please enjoy yourselves and drink up.
Iechyd da! Good health!
Best wishes to you all,
Janet Griffith
Chairman 2011